Fy Rhisynau
Cefais fy ngeni yng Nghaerfyrddin a’n magu yn Argoed Crescent, Trimsaran, fel mab i lowr. Mae gan fy nheulu ehangach wreiddiau dwfn yng nghymunedau ffermio Sir Gaerfyrddin, gyda ffermydd llaeth yn Idole a Pontantwn. Er fy mod yn unig blentyn, mae’n deulu mawr — os gwrddwch chi a rywun o Cydweli neu Mynyddygarreg gyda’r enw olaf Peters, mae’n debygol eu bod yn perthyn i fi. Ges addysg yn Ysgol Trimsaran ac yn ddiweddarach yn Ysgol Gyfun Glan y Môr ym Morth Tywyn. Nid oedd ysgol bob amser yn hawdd — cefais anhawster gyda arholiadau ac ysgrifennu oherwydd dyslecsia — ond datblygais diddordeb cryf mewn gwyddoniaeth, technoleg a peirianneg. Mae’r chwilfrydedd hwn wedi siapio rhan helaeth o’n fywyd.
Gwaith a Bywyd
Fel llawer yn Llanelli, dechreuais weithio’n ifanc. Yn 12 oed, roeddwn yn gweithio ar ddydd Sadwrn ar stondin anifeiliaid anwes yn Farchnad Llanelli. Fel llanc, sefydlais gwasanaeth glanhau acwariwm fy hun, cyn cymryd yr hyn a ddaeth yn yrfa gydol oes i mi: ffermio gelod meddygol. Mae’n swydd unigryw — mewn gwirionedd, rwy’n dal i fod yn unig ffermwr gelod ym Mhrydain ar ôl mwy nag 35 mlynedd — ond mae’n un rwyf wedi mwynhau ac wedi’i adeiladu gyda balchder.
Credaf yn nyfodol ein trefi marchnad. Maent yn galon ein cymunedau, ac rwyf wedi gweld â’m llygaid fy hun pa mor bwysig ydyn nhw i bobl a busnesau lleol.
Bûm yn byw yng nghanol tref Llanelli am 15 mlynedd cyn symud i Mynyddygarreg, ger Cydweli, lle rydw i wedi bod am y 12 mlynedd diwethaf — yn agos i’r lle cefais fy magu.
Rwyf wedi bod yn briod â fy ngŵr Chris am 17 mlynedd. Roeddem yn un o’r cwpl cyntaf yn Llanelli i gael bartneriaeth sifil, ac ar ol pum mlynedd, priodon yn Hen Neuadd Y Dre Llanelli.
Gweithredu dros Fy Nghymuned
Am y saith mlynedd diwethaf, rwyf wedi gwasanaethu fel cynghorydd annibynnol ar Gyngor Tref Cydweli. Cefais y fraint o fod yn Faer am bedair blynedd yn olynol — y tymor parhaus hiraf mewn mwy na 400 mlynedd o hanes y dref — ac rwyf yn dal yn y swydd heddiw.
Mae fy polisi wedi bod bob amser yn syml: gwrando ar bobl a gweithredu ar yr hyn maen nhw’n ei ofyn am. Nid wyf dan rheolau ac agenda gwleidyddiaeth y blaid. Mae’r annibyniaeth honno yn golygu y gallaf weithio gyda phawb, o unrhyw gefndir neu safbwynt, os yw o fudd gorau i’n cymuned.
Pam rydw i’n sefyll
Mae pobl wedi blino ar wleidyddion sy’n dadlau rhyngddynt eu hunain yn lle gwrando. Credaf fod ffordd well. Mae fy mantras yn glir: pobl, nid gwleidyddiaeth plaid.
Credaf mewn llywodraeth fach, llai o bapurffyrdd, a mwy o ymrwymiad gwirioneddol gyda’r cyhoedd ar y materion sydd fwyaf pwysig iddynt. Hoffwn roi’r ymagwedd honno ar lwyfan ehangach — ymarferol, yn canolbwyntio ar bobl, ac yn rhydd o ymyriadau llinellau plaid.
Fy Adduned
Dwy byth wedi bod yn aelod o unrhyw blaid wleidyddol. Rwy’n sefyll fel annibynnwr oherwydd rwy’n credu bod ein cymunedau’n haeddu cynrychiolydd sy’n rhoi pobl yn gyntaf, nid gwleidyddiaeth. Os ydych chi’n rhannu’r gred honno, byddai’n anrhydedd gen i gael eich cefnogaeth.


Leave a Reply